View allAll Photos Tagged modd
Simple mods can make big differences. These three sets are all pretty good out of the box, but some small additions help make them even better!
AT-TE: Added 3x3 round curved pieces to make the middle legs more accurate.
Inspired by @solid_brix
Version: v1.0
Y Clonc Mawr 46
Llwybr Arfordir Sir Benfro, Cymru, Mehefin 2013
Tidrath i Geibwr
Dyma`r modd y diwedda`r Clonc Mawr
Nid ag ergyd ond â dished.
T. S. Eliot
Beth yw`r Clonc Mawr? Taith gerdded Gymraeg ar gyfer oedolion sy`n dysgu Cymraeg a`r Cymry sy`n mo`yn eu cefnogi nhw. `Yn ni`n cerdded rhan fach o Lwybr Arfordir Sir Benfro bron bob mis ac yn mynd o dde`r sir i`r gogledd. Cyfle i oedolion sy`n dysgu Cymraeg siarad Cymraeg tu fa`s i`r `stafell ddosbarth, ac mae croeso i ddysgwyr o bob safon. Dechreuon ni yn Llanrhath hynny yw Amroth yn ne Sir Benfro fis Mawrth 2009 a bennwn ni`r Clonc Mawr ar bwys Traeth Poppit yn y gogledd yn 2013, felly cymerith y Clonc Mawr marce pedair blynedd a hanner.
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Y Clonc Mawr 46
Pembrokeshire Coast Path, Wales, June 2013
Newport to Ceibwr
This is the way the Clonc Mawr ends
Not with a bang but a cuppa.
T. S. Eliot
The Clonc Mawr is a walk for adults who are learning Welsh and the Welsh speakers who want to support them. We walk a small part of the Pembrokeshire Coast Path almost every month and we`re walking from Amroth in the south to Poppit in the north. It`s a chance for adults who are learning Welsh to use their Welsh outside the classroom, and adult learners of every level are welcome. We started in Amroth in south Pembrokeshire in March 2009 and we`ll finish the Clonc Mawr near Poppit Sands in the north in 2013, so the Clonc Mawr will take about four and a half years.
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
“I`r Clonc! I`r Clonc!
Dewch Gymry hen ac ifanc,
Dewch i`r Clonc.”
Dafydd Iwan
Dyma gerdd gan y cloncfeistr at y Cymry sy`n cefnogi`r Cloncie Bach a`r Clonc Mawr.
This is a poem by the cloncmaster to the Welsh speakers who support the Clonc Mawr.
Cymry`r Cloncie
Fe gewch chi hwyl a sbri,
Bisgedi, cacenni a dished o fri,
A phan ddewch chi`n llu, pentigili,
I ganol y miri, a`r garw wedi`i dorri,
Fe gewch chi`r fraint, heb sylwi,
O ddod â`ch Cymraeg aton ni.
Y Cloncfeistr
Dyma englyn gan Idris Reynolds at y bobol sy`n dysgu Cymraeg.
This is an englyn by Idris Reynolds to the people who are learning Welsh.
Dysgwr
Mewn gardd a fu yn harddwch – a`i lliwiau
Yn llawer tanbeitiach
Y mae rhosynnau mwyach
Yn bywhau y border bach
Idris Reynolds
Learner
In a garden that was prettier – and its colours
Very much brighter
There are roses once again
Enlivening the dear border
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Canolfan Cymraeg i Oedolion De-Orllewin Cymru
Academi Hywel Teifi
Adeilad Keir Hardie
Prifysgol Abertawe
Parc Singleton
Abertawe
SA2 8PP
Manylion cyrsiau:
Gwefan: www.dysgucymraegdeorllewin.org
E-bost: cymraegioedolion@abertawe.ac.uk
Ffôn: 01792 602070
South West Wales Welsh for Adults Centre
Academi Hywel Teifi
Keir Hardie Building
Swansea University
Singleton Park
Swansea
SA2 8PP
Details of courses:
Website: www.learnwelshsouthwestwales.org
E-mail: www.welshforadults@swansea.ac.uk
Phone: 01792 602070