Y Cloncfeistr
Y Clonc Mawr 35
Llun: Caffi`r Felin, Trefin
Photograph: The Mill Cafe, Trefin
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Y Clonc Mawr 35
Llwybr Arfordir Sir Benfro, Cymru, Mai 2013
Aber Draw / Aber Felin i Aber Mawr
“Mae`r gwarchodwyr yn gweud bod Zwlws
ar y Clonc Mawr. Miloedd onyn nhw.”
Baner-Ringyll Bourne
Beth yw`r Clonc Mawr? Taith gerdded Gymraeg ar gyfer oedolion sy`n dysgu Cymraeg a`r Cymry sy`n mo`yn eu cefnogi nhw. `Yn ni`n cerdded rhan fach o Lwybr Arfordir Sir Benfro bron bob mis ac yn mynd o dde`r sir i`r gogledd. Cyfle i oedolion sy`n dysgu Cymraeg siarad Cymraeg tu fa`s i`r `stafell ddosbarth, ac mae croeso i ddysgwyr o bob safon. Dechreuon ni yn Llanrhath hynny yw Amroth yn ne Sir Benfro fis Mawrth 2009 a bennwn ni`r Clonc Mawr ar bwys Traeth Poppit yn y gogledd yn 2013, felly cymerith y Clonc Mawr marce pedair mlynedd.
~~~~~~~~~~~~~~
The Clonc Mawr 35
Pembrokeshire Coast Path, Wales, Mai 2012
Aber Draw / Aber Felin i Aber Mawr
“The sentries report Zulus on the Clonc
Mawr. Thousands of them.”
Colour Sergeant Bourne
What is the Clonc Mawr? The Clonc Mawr is a walk for adults who are learning Welsh and the Welsh speakers who want to support them. We walk a small part of the Pembrokeshire Coast Path almost every month and we`re walking from Amroth in the south to Poppit in the north. It`s a chance for adults who are learning Welsh to use their Welsh outside the classroom, and adult learners of every level are welcome. We started in Amroth in south Pembrokeshire in March 2009 and we`ll finish the Clonc Mawr near Poppit Sands in the north in 2013, so the Clonc Mawr will take about four years.
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Y Clonc Mawr
(English version below)
Fel arfer `yn ni`n cwrdd am 10.30 mewn caffi neu 10.45 os nad oes caffi cyfleus a dechrau`r Clonc Mawr am 11.00. `Yn ni`n cael picnic ar y ffordd ag `yn ni`n cyrraedd pen y daith erbyn 3.00. Lifftiau wedyn yn ôl i`r ceir ac i gaffi am glonc a dished. `Yn ni`n aros yn y caffi tan 4.30. Dyma dros bump awr rhwng 10.45 a 4.30 i`r oedolion sy`n dysgu Cymraeg ei siarad hi.
Mae`r Cymry`n bwysig ar y Clonc Mawr i gloncan da`r dysgwyr achos trwy siarad Cymraeg â`r Cymry mae`r dysgwyr yn dysgu`r iaith. Fel mae Dafydd Iwan yn dweud yn ei gân enwog*:
“I`r Clonc! I`r Clonc!
Dewch Gymry hen ac ifanc.
Dewch i`r Clonc!”
So pobol yn dysgu iaith yn y `stafell ddosbarth. Maen nhw`n cael y patrymau sylfaenol yno ond maen nhw`n dysgu siarad yr iaith trwy ei siarad hi â siaradwyr brodorol tu fa`s i`r `stafell ddosbarth. Ar y Clonc Mawr mae`r dysgwyr yn cael y cyfle i ddefnyddio, ymarfer ac ymestyn y patrymau maen nhw wedi dysgu yn y `stafell ddosbarth. Felly mae`r Cymry`n hanfodol i`r broses `ma ac mae`n bwysig iawn i ni gael Cymry ar y Clonc Mawr. A beth mae`r Cymry`n ei wneud ar y Clonc Mawr? Dim ond cerdded `da ni a chloncan `da pawb am y byd a`r betws.
`Yn ni`n cerdded dim ond tipyn bach o`r Llwybr Arfordir bob tro achos mae`r pwyslais ar siarad Cymraeg, dim ar gerdded. Mae croeso i`r bobol sy` ddim yn mo`yn cerdded gwrdd â ni yn y caffi am yr awr ola` i gloncan.
Am fanylion: Gwglwch `Y Clonc Mawr` neu ffonio 01437 776785.
I weld lluniau: www.flickr.com/photos/y_clonc_mawr/sets/
Mae sawl Clonc Bach o gwmpas Sir Benfro hefyd. Dyma gyfle i`r oedolion sy`n dysgu Cymraeg gwrdd am ddwy awr mewn caffi neu dafarn i gloncan yn Gymraeg. Mae`r Cymry`n hanfodol yma hefyd. Gallwch chi gael manylion y Cloncie Bach trwy Gwglo: Cloncie Bach.
Mae`r gerdd fach isod gan y Cloncfeistr at y Cymry sy`n dod i`r Clonc Mawr a`r Cloncie Bach i gloncan yn Gymraeg `da`r oedolion sy`n dysgu`r iaith:
Cymry`r Cloncie
Fe gewch chi hwyl a sbri,
Bisgedi, cacenni a dished o fri.
A phan ddewch chi`n llu, pentigili,
I ganol y miri, a`r garw wedi`i dorri,
Fe gewch chi`r fraint, heb sylwi,
O ddod â`ch Cymraeg aton ni.
Y Cloncfeistr
Dyma englyn gan y Prifardd Idris Reynolds at y bobol sy`n dysgu Cymraeg*.
Dysgwr
Mewn gardd a fu yn harddwch – a`i lliwiau
Yn llawer tanbeitiach
Y mae rhosynnau mwyach
Yn bywhau y border bach
Idris Reynolds
Dyma englyn gan y Prifardd Ceri Wyn Jones*.
Y Clonc Mawr
Am mai hwyl y sgyrsiau mân ar y wâc
yw`r wers orau`n unman,
drwy ddyfal donc a chloncan
mae ail iaith yn cerdded mla`n.
Ceri Wyn Jones
A dyma Gân y Cloncie**
And this is the song of the Cloncs
Cân y Cloncie
Mae`r Dysgwyr wedi gwylltio,
A`u hysbryd sydd ar dân;
Pob tafod wedi tewi,
A`u treiglade`n finiog lân,
A`u treiglade`n finiog lân.
I`r Clonc! I`r Clonc!
Dewch ddysgwyr hen ac ifanc,
Dewch i`r Clonc!
Hen ddigon o fân siarad,
Dosbarthiadau saff di-ri;
Dim cadw`n dawel dim mwyach,
Defnyddio`n Cymraeg `ŷn ni,
Ie, defnyddio`n Cymraeg `ŷn ni.
Cytgan
Fe heriwn ni bob tiwtor,
Mwynheuwn ni`r oriau dysg;
Sylfeini`r drefn grynwn ni, ie,
Pan godwn ni ein cri,
Pan godwn ni ein cri.
Cytgan
Oes `na Gymry yn y Cloncie
I gwblhau y gwaith?
Fe godwn ni i gyd o`n hawddfyd clyd
I gloncan gyda`r iaith,
I gloncan i ben y daith.
Cytgan
* `Yn ni wedi cael caniatâd Dafydd Iwan i ddefnyddio`r fersiwn `ma gan y
Cloncfeistr o`i gân e a chaniatâd Idris Reynolds a Ceri Wyn Jones i ddefnyddio`u
englynion nhw. Mae`r fersiynau Saesneg gan y Cloncfeistr.
** Y gân wreiddiol `I`r Gad!` gan Hefin Elis. Diolch i Dafydd Iwan am ganiatâd i
ddefnyddio`r gân. Fersiwn `Cân y Cloncie` gan Y Cloncfeistr
~~~~~~~~~~~~~~~
What is Y Clonc Mawr? `Y` means `the, `Clonc` means `a chat` and `Mawr` means `big`. So `Y Clonc Mawr` means `The Big Chat`.
The Clonc Mawr is a walk for adults who are learning Welsh and the Welsh speakers who want to support them. We walk a small part of the Pembrokeshire Coast Path almost every month and we`re walking from Amroth in the south to Poppit in the north. It`s a chance for adults who are learning Welsh to use their Welsh outside the classroom, and adult learners of every level are welcome. We started in Amroth in south Pembrokeshire in March 2009 and we`ll finish the Clonc Mawr near Poppit Sands in the north in 2013, so the Clonc Mawr will take about four years.
We usually meet at 10.30 or 10.45 when there isn`t a convenient cafe and start the Clonc Mawr at 11.00. We have a picnic on the way and we reach the end of the walk by 3.00. Lifts then back to the cars and to a cafe for a clonc and a cuppa. We stay in the cafe `til 4.30. This is over five hours between 10.45 and 4.30 for the adults sho are learning Welsh to speak it.
Welsh speakers are important on the Clonc Mawr to chat to the adult learners because by speaking Welsh with Welsh speakers the learners learn the language. As Dafydd Iwan says in his famous song*:
“To the Clonc! To the Clonc!**
Come Welsh people old and young
Come to the Clonc!”
People don`t learn a language in the classroom. They get the basic patterns there but they learn to speak to speak the language by speaking it with native speakers outside the classroom. On the Clonc Mawr the adult learners have the chance to use, practise and extend the patterns they`ve learnt in the classroom. This means that Welsh speakers are essential to the this process and it`s very important for us to have Welsh speakers on the Clonc Mawr. And what do the Welsh speakers do on the Clonc Mawr? Just walk with us and chat to everyone about anything and everything.
We only walk a small part of the Cioast Path each time because the emphasis is on speaking Welsh, not on walking. People who don`t want to walk are welcome to meet us in the cafe to chat with us for the last hour.
For details: Google `Y Clonc Mawr` or phone 01437 776785.
To see photographs:
www.flickr.com/photos/y_clonc_mawr/sets/
There are several Clonc Bachs (`Clonc Bach` means `Little Clonc`) around Pembrokeshire as well. This is a chance for the adults who are learning Welsh to meet for an hour or two in a cafe or pub to chat in Welsh. Welsh speakers are essential here as well. You can get details of the Cloncie Bach by Googling: Cloncie Bach.
The poem below by the Cloncmaster is to the Welsh speakers who come to the Clonc Mawr and the Cloncie Bach (Little Cloncs) to chat in Welsh with the adult learners:
The Welsh people of the Cloncs**
You`ll have fun and sport,
Biscuits, cakes and a cuppa of renown.
And when you come as a host, all the way,
Into the merriment, and break the ice,
You`ll have the honour, without noticing,
Of bringing your Welsh to us.
This is an englyn by the `Prifardd` Idris Reynolds to the people who are learning Welsh*:
Learner**
In a garden that was prettier – and its
colours
Very much brighter
There are roses once again
Enlivening the dear border
This is an englyn by the `Prifardd` Ceri Wyn Jones.
The Clonc Mawr**
Because the fun of the small talk on the walk
is the best lesson anywhere,
by persistence and chattering
a second language walks on.
* We`ve had permission from Dafydd Iwan to use this version by the Cloncmaster of
his famous song and permission from Idris Reynolds and Ceri Wyn Jones to use
their englyns.
** The English version by the Cloncmaster is of course just a rough translation to give
you an idea of the original.
~~~~~~~~~~~~~~~
Prif nôd maes Cymraeg i Oedolion yw cynhychru oedolion sy`n gallu, ac yn dewis defnyddio`r Gymraeg trwy ei siarad, darllen a `sgrifennu hi.
Canolfan Cymraeg i Oedolion De-Orllewin Cymru
Academi Hywel Teifi
Adeilad Keir Hardie
Prifysgol Abertawe
Parc Singleton
Abertawe
SA2 8PP
Manylion cyrsiau:
Gwefan: www.dysgucymraegdeorllewin.org
E-bost: cymraegioedolion@abertawe.ac.uk
Ffôn: 01792 602070
~~~~~~~~~~~~~~~~
The main objective of the field of Welsh for Adults is to produce adults who can, and who choose to use Welsh by speaking, reading and writing it.
The South West Wales Welsh for Adults Centre
Academi Hywel Teifi
Keir Hardie Building
Swansea University
Singleton Park
Swansea
SA2 8PP
Details of courses:
Website: www.learnwelshsouthwestwales.org
E-mail: www.welshforadults@swansea.ac.uk
Phone: 01792 602070
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Lluniau o`r Clonc Mawr:

Lluniau o`r Cloncie eraill:
www.flickr.com/photos/50680453@N02/sets/
~~~~~~~~~~~~~~
Photographs of the Clonc Mawr:

Photographs of the other Cloncs:

~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~