Pengwern Cymunedol
Yr Wythfed Rhyfeddod / The Eighth Wonder
Un peth ydy’r Taj Mahal,
Neu’r Gerddi Crog hynny y clywsom
Amdanyn nhw ym Mabilon,
A’r Rhyfeddodau eraill hynny
Yn y byd a fu, dros oesoedd maith,
Yn gwneud cyfanswm crwn o saith.
Ond beth am hwn,
Yr adeiladwaith hynod hwn?
A fu yn hanes hen y byd
Hysbyseb y’w gymharu â hwn
I rai a ymorchestai
Yn eu gwaith o g0di tai?
A fu lliwiau i’w hedmygu
Yn debyg i rai sinc hynafol iawn yn rhydu?
A fu yn hanes hir ffenestri
Rai fel yr rhain’ddyfeiswyd i dywyllu?
A fu drws uwch drws yn unlle
I droedio drwyddo fo i wagle?
A dacw gorn, di-fwg wrth reswm,
I gadw’r lle yn oer ar hirlwm.
Mae gennym le i hawlio hwn
Fel yr wythfed yn ein dwthwn
O holl Ryfeddodau ein byd crwn;
Ond y mae iddo’i hawl, un ddigyfaddawd
Hefyd i fod
Yn Ryfeddod Cyntaf y bydysawd.
Yr Wythfed Rhyfeddod / The Eighth Wonder
Un peth ydy’r Taj Mahal,
Neu’r Gerddi Crog hynny y clywsom
Amdanyn nhw ym Mabilon,
A’r Rhyfeddodau eraill hynny
Yn y byd a fu, dros oesoedd maith,
Yn gwneud cyfanswm crwn o saith.
Ond beth am hwn,
Yr adeiladwaith hynod hwn?
A fu yn hanes hen y byd
Hysbyseb y’w gymharu â hwn
I rai a ymorchestai
Yn eu gwaith o g0di tai?
A fu lliwiau i’w hedmygu
Yn debyg i rai sinc hynafol iawn yn rhydu?
A fu yn hanes hir ffenestri
Rai fel yr rhain’ddyfeiswyd i dywyllu?
A fu drws uwch drws yn unlle
I droedio drwyddo fo i wagle?
A dacw gorn, di-fwg wrth reswm,
I gadw’r lle yn oer ar hirlwm.
Mae gennym le i hawlio hwn
Fel yr wythfed yn ein dwthwn
O holl Ryfeddodau ein byd crwn;
Ond y mae iddo’i hawl, un ddigyfaddawd
Hefyd i fod
Yn Ryfeddod Cyntaf y bydysawd.