Theatr Genedlaethol Cymru
Drag to set position!
Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn gwmni drama teithiol iaith Gymraeg.
Sefydlwyd y Cwmni yn 2003 gyda'r bwriad o greu theatr ar gynfas lydan, sydd ag apeal eang, sy'n cyfoethogi diwylliant theatrig Cymru, ac sy'n portradu safle'r genedl yn y byd a safle'r byd yn y genedl.
Er fod y Cwmni yn gwmni teithiol sydd yn gwasanaethu Cymru ben baladr, mae cartref gweinyddol y Cwmni yng nghanolfan Y Llwyfan, yn nhref Caerfyrddin. Yma mae holl waith gweinyddol y Cwmni yn cael ei wneud ac yma hefyd mae'r ymarferion yn digwydd cyn i gynhyrchiad fynd ar daith.
Ar hyn o bryd, mae Theatr Genedlaethol Cymru yn cynhyrchu tri cynhyrchiad teithiol, sydd yn cael eu perfformio, gan amlaf, ym mhrif theatrau Cymru.
Yn ogystal a chynyrchiadau, mae gwaith ymestyn yn cael ei wneud er mwyn meithrin cysylltiadau gyda chymunedau ar hyd a lled Cymru. Mae hyn yn cynnwys gweithdai, sgyrsiau, nosweithiau agored a seminarau gydag ysgolion uwchradd, colegau, prifysgolion, grwpiau drama a sefydliadau perthnasol.
Ers 2003, mae Theatr Genedlaethol Cymru wedi llwyfannu dros 22 o gynyrchiadau sydd yn cynnwys 'Yn Debyg Iawn i Ti a Fi', ''Siwan', 'Cysgod y Cryman', 'Esther', 'Hen Rebel', 'Porth y Byddar', 'Iesu!', 'Y Pair', 'Y Gofalwr' a 'Gwlad yr Addewid'.
Cofrestrwyd Theatr Genedlaethol Cymru Cyf. yng Nghymru - Rhif Cofresrtu 4784488. Mae'r cwmni hefyd yn Elusen Cofrestredig Rhif 110603
****************************************************
Theatr Genedlaethol Cymru is the national Welsh language touring company.
The Company was initially set up in 2003 with the aim of creating theatre on a wide canvas, which is of broad appeal that enriches Welsh theatrical culture, and which portrays the nation's position in the world and the world's position in Wales.
Theatr Genedlaethol Cymru tours its productions all over Wales and the Company's administrative centre is in the new Cultural Enterprise Centre in Carmarthen - Y Llwyfan - which offers administrative and rehersal space for the Company.
Currently, the Company produces three touring productions that are performed at the main theatre venues in Wales.
Theatr Genedlaethol Cymru also offers a programme of outreach work that links into the local community all over Wales. This includes workshops, post and pre shoe discussions, open evenings and seminars to secondary schools, colleges, universities, drama groups and any other relevant associations/groups.
Since 2003, Theatr Genedlaethol Cymru has staged over 22 productions that include: 'Yn Debyg Iawn i Ti a Fi', ''Siwan', 'Cysgod y Cryman', 'Esther', 'Hen Rebel', 'Porth y Byddar', 'Iesu!', 'Y Pair', 'Y Gofalwr' & 'Gwlad yr Addewid'.
Theatr Genedlaethol Cymru Cyf. Is Registered in Wales as a Limited Company No. 4784488.
Theatr Genedlaethol Cymru is a Registered Charity No. 110603
- JoinedFebruary 2012
- Emailsteve@theatr.com
Testimonials
Nothing to show.